| Sioe Deithiol Arloesi ac E-Fusnes i Gymru 2010 |
 |
| |
|
|
| |
Annwyl Syr/Madam,
Rydym yn falch o’ch gwahodd i Sioe Deithiol Arloesi ac E-Fusnes cyntaf Cymru, a fydd yn digwydd yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth eleni.
Trwy ddefnyddio syniadau newydd ym mhob agwedd o’ch busnes, gan gynnwys datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd a gwell, mabwysiadu technolegau newydd a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, mae’r potensial gan eich busnes i dyfu a ffynnu.
I ddarganfod sut, dewch i un o’n Sioeau Teithiol YN RHAD AC AM DDIM, lle bydd ein tîm o arbenigwyr ar gael i roi’r gefnogaeth ac arweiniad gorau posibl i chi. Hefyd bydd arbenigwyr diogelwch gwybodaeth yn rhoi’r offer hanfodol i chi amddiffyn eich busnes rhag bygythiadau e-Ddiogelwch trwy e-Drosedd Cymru. |
|
|
 |
| |
Aberystwyth 23ain Chwefror
Rhodfa Padarn, swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru |
|
|
| |
Bangor 4ydd Mawrth,
Technium CAST |
|
|
| |
Caerdydd 9fed Mawrth,
Stadiwm Dinas Caerdydd |
|
|
| |
Abertawe 10fed Mawrth,
Stadiwm y Liberty |
|
|
| |
Llanelwy 24ain Mawrth
Technium Optic |
|
|
| |
|
|
| |
Bydd Sioe Deithiol Arloesi ac E-Fusnes i Gymru 2010 yn brofiad ‘rhyngweithiol’ iawn gan gynnig cymorth a chyngor ymarferol. Mae cynnwys y Sioe Deithiol wedi cael ei greu gan ddilyn mewnbwn oddi wrth dros 200 o fusnesau arloesol a rhagweithiol a bydd yn cynnwys: |
|
| |
 |
|
| |
Dysgwch sut mae busnes wedi elwa gan gefnogaeth arloesi ac e-Fusnes |
|
| |
 |
|
| |
Am syniadau a thechnegau newydd, megis rhwydweithio trwy gyfryngau cymdeithasol, er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachol ar gyfer eich cynhyrchion arloesol. |
|
| |
 |
|
| |
Yma bydd cynrychiolwyr yn gallu profi technolegau a siarad ag arbenigwyr am opsiynau cefnogaeth. Bydd amrywiaeth o dechnolegau TGCh yn cael eu harddangos gan gynnwys system rheoli perthynas â chleientiaid wedi’i chysylltu â ffôn, ffonau Smart, Skype, defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnes, enghraifft fyw o danseilio diogelwch, gwendidau mewn technolegau diwifr, sut i ganfod gwefan twyllodrus a Chyfrifiadura Cwmwl. Bydd yr ardal hon ar agor trwy’r dydd er mwyn i gynrychiolwyr ei defnyddio. |
|
| |
 |
|
| |
Mae dros 75% ohonoch chi wedi gofyn am eglurhad a manteision defnyddio a mabwysiadu Technolegau Cwmwl o fewn eich busnes. Bydd arbenigwyr ar gael i esbonio a’ch helpu chi i weithredu a rheoli Gwasanaethau Cwmwl os bydd eisiau arnoch chi. |
|
| |
 |
|
| |
Bydd y rhain yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac arweiniad uniongyrchol i fusnesau ar draws Cymru ar fanteision integreiddio a gwella e-fusnes trwy TGCh. Bydd y gweithdai hefyd yn cynnwys sesiwn oddi wrth dîm e-Drosedd Cymru ar ddiogelwch gwybodaeth, dwyn data ac Eiddo Deallusol. |
|
| |
 |
|
| |
Bydd y tîm e-Fusnes yn cynnig gwiriad iechyd busnes am ddim i bob cwmni ganfod cyfleoedd am well ddefnydd o TGCh, yn ogystal â chyngor ar bob agwedd o brosesau busnes, gan gynnwys, Cynllunio Adnoddau Menter ac Offer Rheoli Perthynas â Chleientiaid. |
|
| |
 |
|
| |
Bydd rheolwyr arloesi yn cynnig cyngor diragfarn am ddim i gwmnïau ynghylch eu hanghenion arloesi, gan gynnwys diogelu eiddo deallusol, datblygu cynhyrchion newydd, cyfleoedd am gydweithio a phrosesau gweithgynhyrchu a dylunio.
|
|
| |
|
|
| |
|
|
|
|
|
| |
Mae llefydd yn y Sioe Deithiol Arloesi ac E-Fusnes i Gymru 2010 yn gyfyngedig felly bydden ni’n eich cynghori chi i gadw lle yn gynnar er mwyn sicrhau lle yn eich digwyddiad agosaf.
Mae ffurflen gofrestru ar-lein a manylion pellach am y digwyddiad ar gael ar gofrestru ar-lein.
Neu gallwch chi ein ffonio ni ar 029 2036 8279 i gofrestru dros y ffôn. |
|
| |
|
|
| Dymuniadau gorau,
Y Tîm Arloesi ac E-Fusnes |
| |
 |
|
 |
|
  |
|
| |

Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n falch o gael yr e-bost hwn?
|
|

Ewch i'r wefan am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gan e-Fusnes i Gymru.
|
|
|
|
 |
© Llywodraeth Cynulliad Cymru 2010
Welsh Assembly Government, e-Business, Plas Glyndwr, Kingsway, Cardiff, CF10 3AH.
|