 |
 |
Croeso i’r rhifyn diweddaraf o e-Gylchlythyr e-Drosedd Cymru. Gydol mis Mawrth byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru yn rhoi gwybodaeth am y bygythiadau diweddaraf i fusnesau Cymru a sut gallwch chi amddiffyn eich hun rhagddynt.
Mae’r rhifyn hwn yn sôn am rai o’r materion diogelwch y dylech eu hystyried os ydych chi’n bwriadu symud eich rhwydwaith TG i system gwmwl. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfleusterau newydd ar ein gwefan i’ch helpu i ddewis cyflenwyr a chynhyrchion diogelwch ar gyfer eich systemau TG.
Mae e-Drosedd Cymru yn bartneriaeth o sefydliadau ac asiantaethau sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth ac offer i alluogi busnesau yng Nghymru i fod yn ymwybodol ac yn wyliadwrus o effeithiau dinistriol e-Drosedd o bob math, a diogelu eu hunain rhag yr effeithiau hynny.
|
 |
 |
Bydd Sioe Deithiol Arloesedd ac e-Fusnes gyntaf Cymru’n ymweld â 4 lleoliad ledled y wlad ym mis Mawrth. Bydd yn gyfle i fusnesau bach a mawr siarad ag arbenigwyr ym meysydd datblygu busnes, gan gynnwys Arloesedd, e-Fusnes, e-Ddiogelwch a thechnolegau’r dyfodol, a manteisio ar eu gwybodaeth – a hynny AM DDIM!
Bydd Symantec yn sôn am fygythiadau 2010 – beth ydynt, sut maent yn gweithio, a sut gallech chi gael eich taro a bod yn rhan o’r broblem. Bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol o’r Ddeddf Diogelu Data y dylai busnesau fod yn ymwybodol ohonynt, i sicrhau eu bod yn gweithredu’n gyfreithlon ac yn diogelu eu hunain a’u cwsmeriaid.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cliciwch yma.
|
 |
 |
 |
 |
 |
Diogelu'ch microfusnes
Er bod y Rhyngrwyd yn cynnig byd newydd o gyfleoedd i chi a'ch busnes bach, rhaid bod yn ofalus. Mae e-Drosedd ar gynnydd yn y DU ac amcangyfrifir ei fod yn costio bron i £300 miliwn i fusnesau Cymru.
Ni ddylai'r ffaith bod trosedd wedi cyrraedd y Rhyngrwyd synnu unrhyw un, ond yr hyn sy'n achosi pryder yw diffyg ymwybyddiaeth am yr hyn yw "e-Drosedd", a'r hyn y dylai pobl ei wneud i amddiffyn eu hunain a'u microfusnesau.
Lawrlwythwch ein taflen wybodaeth newydd yma.
|
 |
Pam ei bod hi'n bwysig adrodd am e-Droseddau?
Yn aml, nid yw pobl yn adrodd am e-Droseddau, a hynny am resymau digon dealladwy. Mae rhai dioddefwyr yn ofni cael cyhoeddusrwydd am y rhesymau anghywir, ac mae eraill yn teimlo nad oeddynt yn gwybod digon am y dechnoleg i atal hyn rhag digwydd. Mae eraill hefyd nad ydynt yn gwybod ble i gael cyngor, neu maen nhw'n meddwl nad oes unrhyw beth y gallant ei wneud.
Yn sgil y ffaith nad yw pobl yn adrodd am lawer o'r troseddau, yn aml nid yw'r bobl a allai helpu i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn i'r gymuned fusnes yn cael gweld gwybodaeth hanfodol. Ond, po fwyaf y byddwn yn ei wybod am yr hyn sy'n digwydd, y mwyaf parod y byddwn i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Mae sicrhau bod pobl fusnes yn taflu eu pwysau y tu ôl i'r ymgyrch, a'u bod yn adrodd am unrhyw beth y gellid ei ystyried fel gweithgarwch troseddol, yn allweddol yn y frwydr yn erbyn e-Drosedd.
Lawrlwythwch y Canllaw ar gyfer Ymateb Busnes yma i ddysgu mwy am adrodd am e-Drosedd
|
|
 |
 |
|
|
 |
|
 |
 |
 |
|
 |
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan e-Droseddu neu ddwyn adnabyddiaeth, gyda phwy ydych chi’n cysylltu?
Cysylltwch â ni a chewch gyngor neu cewch siarad â’ch Swyddog yr Heddlu rhanbarthol sy’n ymdrin ag achosion e-Droseddu.
|
|
 |
 |
|
 |
 |
Cliciwch yma i fynd i Borth Rhybuddion a Hysbysiadau 'Get Safe Online' sy’n |
| darparu diweddariadau amserol ynghylch materion diogelwch gan ffynonellau Llywodraeth Ei Mawrhydi. |
|
|
|
 |