 |
 |
Croeso i rifyn diweddaraf e-Gylchlythyr e-Drosedd Cymru. Yn y rhifyn hwn rydym yn cyflwyno’n cyhoeddiad diweddaraf “Preventing e-Crime for Dummies” ac yn sôn am beryglon meddalwedd codi ofn, sef sgiâm sydd ar y rhyngrwyd ar hyn o bryd. Hefyd gallwch gael rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru 2009 a gynhelir yn Llandudno ar 21 Hydref.
Partneriaeth yw e-Drosedd Cymru rhwng sefydliadau ac asiantaethau sy’n ymrwymedig i roi’r wybodaeth a’r offer sy’n angenrheidiol ar fusnesau Cymru fel y gallant fod yn ymwybodol ac yn wyliadwrus o effeithiau andwyol yr holl ffurfiau ar e-Droseddu, yn ogystal â chael yr holl wybodaeth amdanynt ac, yn y pen draw, fod yn ddiogel rhag yr effeithiau hynny. e-Crime in all its forms. |
 |
 |
Cynhelir Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru 2009 yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Mercher 21 Hydref. Mae economi’r DU yn colli biliynau o bunnoedd bob blwyddyn oherwydd y bygythiadau gwahanol sy’n deillio o e-Drosedd, gan gynnwys: dwyn gwybodaeth, difrodi’n fwriadol, dwyn gwybodaeth ariannol ac amharu ar fusnesau.
Yn yr uwchgynhadledd, sy’n dychwelyd i Ogledd Cymru eleni, bydd siaradwyr o’r diwydiant yn sôn am y bygythiadau e-Drosedd diweddaraf a’r camau y gall busnesau yng Nghymru eu cymryd i ddiogelu’u hunain.
I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar gyfer yr uwchgynhadledd ewch i dudalennau’r uwchgynhadledd ar wefan e-Drosedd Cymru. www.ecrimewales.com/summit2009 |
 |
 |
 |
 |
 |
Canllaw Syml i Rwystro e-Droseddu
Mae e-Drosedd Cymru wedi lansio cyhoeddiad newydd, "Preventing e-Crime for Dummies". Lawrlwythwch eich copi electronig AM DDIM yma heddiw. Mae "Preventing e-Crime for Dummies" yn esbonio sut i fod yn barod ar gyfer y peryglon a'r sgamiau niferus sy’n gallu niweidio eich busnes ac yn cynnig camau a chyngor ymarferol i leihau’r peryglon gymaint â phosib. Os ydych wedi dioddef yn sgil e-droseddu, mae’r canllaw hwn yn dangos ble a sut i gofnodi’r digwyddiad. incident. |
 |
Rhaid parhau i fod yn ymwybodol o feddalwedd codi ofn Mae busnesau ar draws Cymru yn cael eu rhybuddio rhag bygythiad dyddiol meddalwedd codi ofn wrth i droseddwyr droi at ddulliau mwy soffistigedig er mwyn twyllo busnesau bach ar-lein. Mae meddalwedd codi ofn yn defnyddio hysbysebion naid sy'n rhybuddio defnyddwyr am fygythiadau tybiedig i ddiogelwch eu peiriannau. Wrth i gwmnïau gallio o ran adnabod sbam ac e-byst gwe-rwydo, mae darparwyr meddalwedd codi ofn wedi dechrau gosod sbardunau yn y mannau mwyaf annisgwyl ar-lein. Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu bod rhwng 5 a 50 o dactegau sgiâm newydd yn dod i'r amlwg bob dydd. |
|
 |
|
 |
 |
 |
|
 |
 |
Cliciwch yma i fynd i Borth Rhybuddion a Hysbysiadau 'Get |
| Safe Online' sy’n darparu diweddariadau amserol ynghylch materion diogelwch gan ffynonellau Llywodraeth Ei Mawrhydi. |
|
 |
 |
|
 |
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan e-Droseddu neu ddwyn adnabyddiaeth, gyda phwy ydych chi’n cysylltu?
Cysylltwch â ni a chewch gyngor neu cewch siarad â’ch Swyddog yr Heddlu rhanbarthol sy’n ymdrin ag achosion e-Droseddu. |
|
 |
 |
|
 |
 |
Lawrlwythwch
ffeithlenni hawdd i’w deall ynghylch amrywiaeth |
| eang o bynciau gan gynnwys sut i ddiogelu eich rhwydwaith diwifr, sut i ddiogelu eich hun rhag firysau a sut i ddeall y bygythiadau y gall cyn-staff a staff presennol eu hachosi i’ch busnes. |
|
 |
 |
|
 |
| Mae e-Drosedd Cymru wedi ymuno â’r rhwydwaith cymdeithasol Twitter sy’n boblogaidd iawn. Dilynwch ni yn twitter.com/ecrimewales ac fe gewch y straeon newyddion diweddaraf, cynghorion ynghylch diogelwch, rhybuddion a hysbysiadau. |
|
 |
 |
|
 |
| Yma yn e-Drosedd Cymru, rydym wedi bod yn chwilota trwy’r newyddion am straeon ynghylch
e-Droseddu yr ydym ni’n credu a fyddai o ddiddordeb i chi; straeon sy’n eich cynghori sut i ddiogelu eich hun mewn busnes ac wrth ddefnyddio’r we yn y cartref, strategaethau’r Heddlu a’r Llywodraeth a gwybodaeth ynghylch y sgamiau a’r bygythiadau diweddaraf. |
|
 |
|
 |