e-Drosedd Wales Tachwedd 2009
Croeso...
Croesio i rifyn diweddaraf e-Gychlyr e-Drosedd Cymru.
Ar 21 Hydref, cynhaliwyd pumed Uwchgynhadledd flynyddol e-Drosedd Cymru yn Llandudno.
Os nad oeddech yn gallu bod yno, neu os hoffech gael cipolwg arall ar ei chynnwys ardderchog, darllenwch ragor.

Yn y rhifyn hwn, rydym hefyd yn cyflwyno ein cyhoeddiadau mwyaf diweddar; "Diogelu'ch microfusnes rhag e-Drosedd" a'r “Canllaw ar gyfer Ymateb Busnes", sy'n eich hatgoffa pa mor bwysig yw adrodd am e-Drosedd wrth yr Heddlu neu awdurdodau perthnasol eraill. Hefyd, gallwch ddysgu sut i fanteisio ar archwiliad diogelwch TG o'ch busnes yn RHAD AC AM DDIM...

Mae e-Drosedd Cymru yn bartneriaeth o sefydliadau ac asiantaethau sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod busnesau Cymru yn cael yr wybodaeth a'r pecynnau sydd eu hangen arnynt i fod yn ymwybodol, yn wyliadwrus, yn wybodus ac, yn y pen draw, yn ddiogel rhag effeithiau dinistriol e-Drosedd ym mhob ffurf. Mae e-Drosedd Cymru yn bartneriaeth o sefydliadau ac asiantaethau sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod busnesau Cymru yn cael yr wybodaeth a'r pecynnau sydd eu hangen arnynt i fod yn ymwybodol, yn wyliadwrus, yn wybodus ac, yn y pen draw,
yn ddiogel rhag effeithiau dinistriol e-Drosedd ym mhob ffurf. The eCrime Wales team
Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru 2009
Cymerodd fwy na 300 o gynrychiolwyr o'r gymuned fusnes, yr heddlu ac arbenigwyr y diwydiant ran yn Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru 09 yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher 21 Hydref. Cafwyd cyflwyniadau gan arbenigwyr e-Ddiogelwch o'r radd flaenaf, o gwmnïau rhyngwladol fel Microsoft, 7Safe, CRYPTOCard a Paypal. Darparodd yr arbenigwyr yr wybodaeth ddiweddaraf am fygythiadau a'r dulliau diweddaraf o ddatrys problemau, yn ogystal â chynnig cyngor gwerthfawr am gynnal trafodion ariannol ar-lein yn ddiogel.

Diolch i bawb a oedd yn bresennol, ac i bawb a gymerodd ran yn fyw ar y Rhyngrwyd drwy gyfrwng gwe ffrydio, ar ein blog, ac ar Twitter.

Os nad oeddech yn gallu bod yno, neu os hoffech weld fideo o'r digwyddiad neu os oes gennych sylwadau pellach neu gwestiynau i'w gofyn, ewch i'n microsafle ar yr uwchgynhadledd –
www.ecrimewales.com/summit2009

edrychwch yn ôl ar sylwadau am y digwyddiad ar ein blog -
http://ecrimewales.posterous.com

neu dilynwch ni ar Twitter
http://twitter.com/ecrimewales
Y newyddion diweddaraf
Diogelu'ch microfusnes Pam ei bod hi'n bwysig adrodd am e-Droseddau?
Diogelu'ch microfusnes

Er bod y Rhyngrwyd yn cynnig byd newydd o gyfleoedd i chi a'ch busnes bach, rhaid bod yn ofalus. Mae e-Drosedd ar gynnydd yn y DU ac amcangyfrifir ei fod yn costio bron i £300 miliwn i fusnesau Cymru.

Ni ddylai'r ffaith bod trosedd wedi cyrraedd y Rhyngrwyd synnu unrhyw un, ond yr hyn sy'n achosi pryder yw diffyg ymwybyddiaeth am yr hyn yw "e-Drosedd", a'r hyn y dylai pobl ei wneud i amddiffyn eu hunain a'u microfusnesau.

Lawrlwythwch ein taflen wybodaeth newydd yma.
Pam ei bod hi'n bwysig adrodd am e-Droseddau?

Yn aml, nid yw pobl yn adrodd am e-Droseddau, a hynny am resymau digon dealladwy. Mae rhai dioddefwyr yn ofni cael cyhoeddusrwydd am y rhesymau anghywir, ac mae eraill yn teimlo nad oeddynt yn gwybod digon am y dechnoleg i atal hyn rhag digwydd. Mae eraill hefyd nad ydynt yn gwybod ble i gael cyngor, neu maen nhw'n meddwl nad oes unrhyw beth y gallant ei wneud.

Yn sgil y ffaith nad yw pobl yn adrodd am lawer o'r troseddau, yn aml nid yw'r bobl a allai helpu i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn i'r gymuned fusnes yn cael gweld gwybodaeth hanfodol. Ond, po fwyaf y byddwn yn ei wybod am yr hyn sy'n digwydd, y mwyaf parod y byddwn i wneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae sicrhau bod pobl fusnes yn taflu eu pwysau y tu ôl i'r ymgyrch, a'u bod yn adrodd am unrhyw beth y gellid ei ystyried fel gweithgarwch troseddol, yn allweddol yn y frwydr yn erbyn e-Drosedd.

Lawrlwythwch y Canllaw ar gyfer Ymateb Busnes yma i ddysgu mwy am adrodd am e-Drosedd
Rhagor am e-Drosedd Cymru
Beth yw e-Droseddu? Beth yw e-Droseddu?
Geirfa A-Y o derminoleg e-Droseddu Geirfa A-Y o derminoleg e-Droseddu
Taflenni ffeithiau e-Drosedd Cymru Taflenni ffeithiau e-Drosedd Cymru
Diogelu'ch busnes Diogelu'ch busnes
Diogelu'ch system TG Diogelu'ch system TG
Newyddion e-Drosedd Cymru Newyddion e-Drosedd Cymru
e-Drosedd yn y newyddion e-Drosedd yn y newyddion
Archwiliad diogelwch di-dâl ar gyfer eich busnes

Mae tîm e-Fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag e-Drosedd Cymru i ddarparu cymorth i sicrhau eich bod yn defnyddio TGCh yn ddiogel.

Gall eich busnes gael cymorth un-i-un i ddod o hyd i broblemau posibl o ran diogelwch TGCh. Bydd y Prawf Diagnostig TGCh, sy'n cael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol cymwysedig, ar gael yn ddi-dâl, a bydd yn cynnig prawf iechyd TGCh sy'n gallu canolbwyntio ar faterion diogelwch. Bydd y Prawf Diagnostig yn dweud yn union wrthych beth y dylech ei wneud i fod yn fwy diogel.

Os bydd angen mwy o gymorth arnoch, gall Cymorth e-Fusnes, a dau draean ohono yn cael ei ariannu, nodi pa dechnoleg sydd ei angen arnoch, a'i gwerthuso. Gall hefyd reoli prosiect pan fydd newidiadau mwy sylweddol yn cael eu gwneud i TGCh ar draws eich busnes yn gyffredinol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ebusiness@wales.gsi.gov.uk

ewch i www.cymorth-busnes-cymru.gov.uk

neu ffonio 03000 603000 a gofyn am 'ICT Diagnostic' neu 'e-Business Support'.

  Yn y rhifyn hwn...
  Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru
  Y Newyddion Diweddaraf
  Archwiliadau diogelwch TG
  Adrodd am e-Drosedd
  Astudiaethau achos
  Dilynwch ni ar Twitter
  Bygythiadau presennol
 
Adrodd am e-Drosedd
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan e-Droseddu neu ddwyn adnabyddiaeth, gyda phwy ydych chi’n cysylltu?

Cysylltwch â ni a chewch gyngor neu cewch siarad â’ch Swyddog yr Heddlu rhanbarthol sy’n ymdrin ag achosion e-Droseddu.
Logicalis
Logicalis

Diogelwch Cyfryngau Cymdeithasol: Canllaw 5 Cam a Gweithdy Di-dâl Gallai defnyddio technolegau cymdeithasol i rannu syniadau fod yn arbennig o adeiladol i fusnesau Cymru; ond gall y technolegau hyn achosi niwed os defnyddir nhw yn y ffordd anghywir. Mae rheoli'r risgiau y mae pecynnau cymdeithasol yn eu cyflwyno yn allweddol ar gyfer amgylcheddau cydweithredol, lle mae gweithwyr yn ffynnu ac IPR busnesau yn ddiogel. Bydd y sawl sy'n lawrlwytho ac yn darllen yr erthygl gyfan yn gallu derbyn archwiliad diogelwch di-dâl:
www.uk.logicalis.com/ecrime
Astudiaethau achos
Gwyliwch fideos o enghreifftiau o e-Droseddau difrifol sydd wedi effeithio ar fusnesau yng Nghymru. Neges sylfaenol yr astudiaethau achos hyn yw y gall hyn ddigwydd i unrhyw un, felly byddwch wyliadwrus.

www.ecrimewales.com

Dilynwch e-Drosedd Cymru ar Twitter
Mae e-Drosedd Cymru wedi ymuno â’r rhwydwaith cymdeithasol Twitter sy’n boblogaidd iawn. Dilynwch ni yn twitter.com/ecrimewales ac fe gewch y straeon newyddion diweddaraf, cynghorion ynghylch diogelwch, rhybuddion a hysbysiadau.
Bygythiadau presennol
Bygythiadau presennol Cliciwch yma i fynd i Borth Rhybuddion a Hysbysiadau 'Get Safe Online' sy’n
darparu diweddariadau amserol ynghylch materion diogelwch gan ffynonellau Llywodraeth Ei Mawrhydi.


Cymorth Hyblyg Fusnes
 
 

© Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009

Llywodraeth Cynulliad Cymru