Cwestiynau Cyffredin am ysbïwedd


C. Beth yw ysbïwedd?

A. Term cyffredinol i ddisgrifio rhaglenni cudd ar eich cyfrifiadur sy’n tarfu ar eich preifatrwydd yw ysbïwedd. Mae’n casglu data amdanoch chi ac yn ei anfon dros y rhyngrwyd heb eich caniatâd. Weithiau, gall herwgipio ar eich porwr gwe a dangos hysbysebion naid diangen ar eich cyfrifiadur. Ar ei orau, gall arafu’ch cyfrifiadur a’ch cysylltiad rhyngrwyd; ar ei waethaf, gall drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol fel rhifau cerdyn credyd a chyfrineiriau i droseddwyr. Gall ysbïwedd fod fel feirws, ond ni fydd pob rhaglen ysbïwedd yn cael ei chanfod gan feddalwedd gwrthfeirysau neu’n cael ei rhwystro gan wal dân.

C. Ydy ysbïwedd yn tarfu ar breifatrwydd?

A. Ydy. Weithiau, caiff ei gosod ochr yn ochr â rhaglen arall (rhaglenni rhannu ffeiliau cymar i gymar fel arfer, a ddefnyddir i lawrlwytho cerddoriaeth dros y rhyngrwyd) ac mae’n rhaid i chi ddarllen y print mân yn ofalus iawn i weld beth rydych chi’n cytuno i’w wneud. Weithiau, bydd yn gosod heb eich caniatâd. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall fod yn anodd iawn ei dileu heb feddalwedd gwrth-ysbïwedd.

C. Sut allaf i weld a oes ysbïwedd ar fy nghyfrifiadur?

A. Mae symptomau nodweddiadol yn cynnwys cyfrifiadur neu gysylltiad rhyngrwyd araf, newidiadau annisgwyl yn eich porwr gwe a hysbysebion naid diangen. Mae rhai rhaglenni ysbïwedd wedi’u cynllunio fel na ellir eu canfod o gwbl wrth iddynt sganio am wybodaeth breifat, felly yr unig ffordd o fod yn gwbl siŵr yw defnyddio meddalwedd gwrth-ysbïwedd a sganio’n rheolaidd.

C. Ble allaf i gael meddalwedd gwrth-ysbïwedd?

A. Os ydych chi’n rhedeg Windows XP, rydym yn argymell y dylech lawrlwytho rhaglen gwrth-ysbïwedd Microsoft, sydd ar gael am ddim yn www.microsoft.com/security

Os ydych chi’n rhedeg system weithredu arall, mae sawl rhaglen gwrth-ysbïwedd ar gael am ddim. Fel meddalwedd gwrthfeirysau, mae angen i chi ddefnyddio’r fersiynau diweddaraf bob tro rydych chi’n sganio. Rydym yn argymell y dylech sganio bob wythnos o leiaf a phob tro rydych chi’n gweld rhywbeth anghyffredin yn digwydd ar eich cyfrifiadur. Gan fod gwahanol raglenni gwrth-ysbïwedd yn datgelu gwahanol fygythiadau, rydym yn argymell y dylech redeg dwy neu dair rhaglen wahanol o’r rhestr ganlynol:

Ysbiwedd

Beth yw ysbïwedd, a sut y gallwch chi ei hosgoi
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.