Proffil: Ditectif Brif Uwcharolygydd Chris Corcoran


Chris CorcoranY Ditectif Brif Uwcharolygydd Chris Corcoran yw Cadeirydd Grŵp Llywio e-Droseddu Cymru.

Beth yw eich cefndir?

Fel Ditectif Brif Uwcharolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, rydw i’n dod â  llawer iawn o brofiad i swyddogaeth Cadeirydd Grŵp Llywio e–Droseddu Cymru. Wedi gwasanaethu am dros 26 mlynedd fel swyddog gyda’r heddlu ac ennill gradd anrhydedd mewn Astudiaethau Heddlu a Chyfiawnder Troseddol, rydw i hefyd wedi cyflawni swyddogaeth Cadeirydd Gweithgor Uwch-dechnoleg Cymru Gyfan. Mae’r grŵp hwn yn canolbwyntio ar  sicrhau fod heddluoedd Cymru yn ymwybodol o e-droseddu, a gydag offer digonol i amddiffyn rhag y bygythiad cynyddol o e-droseddu. Credaf fod y math hwn o brofiad o werth arbennig i Grŵp Llywio e-droseddu Cymru wrth gyrraedd ei nodau a’i amcanion wrth wynebu’r her gynyddol a ddaw drwy e-droseddu yng Nghymru.  

Pa fath o feysydd e-droseddu ydych chi’n canolbwyntio arno?

Yn gynyddol, rydw i’n hoelio sylw ar yr effaith y gall e-droseddu ei gael ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau ac unigolion, gan ddarparu canllaw ar sut y gallant hwy fod yn rhagweithiol wrth achub y blaen ar y peryglon sy’n esblygu mewn troseddu uwch-dechnoleg.  Yn fy swyddogaeth fel Pennaeth Rhanbarthol Heddlu Gogledd Cymru dros Wasanaethau Troseddol, cefais y cyfrifoldeb o oruchwylio’r ymchwiliad ac erlyniad nifer o e-droseddau. Rwyf ar flaen y gad wrth rannu gwybodaeth ac addysgu busnesau a sefydliadau’r sector gyhoeddus am fygythiad e-droseddu.

Beth yw eich gobeithion am e-Droseddu Cymru yn y dyfodol?

Yng Nghymru rydym wedi dangos arweiniad  wrth fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o e-droseddu, ac mae’r Grŵp Llywio e-Droseddu Cymru yn rhan ganolog o’r arweiniad yna. Ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r sector breifat byddwn yn dal i geisio dysgu mwy am natur e-droseddu ac wedyn byddwn yn gallu rhoi cyngor i fusnesau sut i atal e-droseddu. Mae’r frwydr yn erbyn e-droseddu yn un barhaus, ond gyda gweithredu cyson gan bob un o’r rhanddeiliaid, gallwn gwrdd â’r sialensiau hynny yng Nghymru.

Trafod sbam

Termau e-droseddu

Bwrdd gwaith pell (Remote desktop)

System sy’n galluogi un cyfrifiadur i ddangos sgrin cyfrifiadur arall a’i weithredu o bell.
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.