Canllaw Syml i Rwystro e-Droseddu


Preventing e-Crime for Dummies coverMae e-Drosedd Cymru wedi lansio cyhoeddiad newydd, “Preventing e-Crime for Dummies”. Lawrlwythwch eich copi electronig AM DDIM yma heddiw.

Mae e-Droseddu yn golygu amser ac arian i fusnesau, ac mae’r peryglon yn cynyddu drwy’r amser. A ydych chi’n gwybod beth yw’r peryglon i’ch busnes chi? A oes gennych chi’r mesurau diogelu sydd eu hangen?

Mae “Preventing e-Crime for Dummies” yn esbonio sut i fod yn barod ar gyfer y peryglon a’r sgamiau niferus sy’n gallu niweidio eich busnes ac yn cynnig camau a chyngor ymarferol i leihau’r peryglon gymaint â phosib. Os ydych wedi dioddef yn sgil e-droseddu, mae’r canllaw hwn yn dangos ble a sut i gofnodi’r digwyddiad.

Cewch wybod sut i:

  • Nodi peryglon a sgamiau gwahanol
  • Diogelu eich cartref a’ch busnes
  • Diogelu eich rhwydwaith TG
  • Cofnodi e-Drosedd

Lawrlwythwch eich copi electronig o “Preventing e-Crime for Dummies” AM DDIM yma.

Yn anffodus, ar hyn o bryd yn Saesneg yn unig y mae “Preventing e-Crime for Dummies”.

Beth yw'r cyfrinair?

Termau e-droseddu

Hidlydd (Filter)

Rhaglen wedi’i chynllunio i fonitro’r hyn sy’n cael ei lwytho i borwr gwe neu raglen e-bost ac i rwystro mathau penodol o ddeunydd. 
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.