Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru 2009

Cynhelir Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru 2009 yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Mercher 21 Hydref. Mae economi’r DU yn colli biliynau o bunnoedd bob blwyddyn oherwydd y bygythiadau gwahanol sy’n deillio o e-Drosedd, gan gynnwys:  dwyn gwybodaeth, difrodi’n fwriadol, dwyn gwybodaeth ariannol ac amharu ar fusnesau.

Yn yr uwchgynhadledd, sy’n dychwelyd i Ogledd Cymru eleni, bydd siaradwyr o’r diwydiant yn sôn am y bygythiadau e-Drosedd diweddaraf a’r camau y gall busnesau yng Nghymru eu cymryd i ddiogelu’u hunain.

Bydd Dan Haagman, Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer 7safe, un o’r cwmnïau Diogelwch Gwybodaeth a gwaith Fforensig ar gyfer cyfrifiadurion mwyaf blaenllaw, yn rhoi gwybodaeth i fusnesau am Safonau Diogelwch Data y Diwydiant Cardiau Talu (PCI DSS) – cyfres o ofynion sydd wedi’u hawdurdodi gan y diwydiant ar gyfer gwella diogelwch data wrth dalu sydd bellach yn orfodol ar gyfer busnesau’r DU.

Byddwn yn cadarnhau’r siaradwyr eraill dros yr wythnosau nesaf ynghyd â chyhoeddi’r agenda llawn.

Bydd ardal arddangos Uwchgynhadledd 2009 yn llawer mwy nag yn y gorffennol a hyd yn hyn mae dros 30 o arddangoswyr o ystod eang o sectorau wedi cadarnhau y byddant yn bresennol gan gynnwys o’r diwydiant diogelwch TG, gwasanaethau cyfreithiol a darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd. Mae cyfleoedd i arddangos yn yr uwchgynhadledd ar gael o hyd, anfonwch e-bost i gwybodaeth@edroseddcymru.com i gael rhagor o wybodaeth.

Er mwyn bod ymhlith y cyntaf i gadarnhau y byddwch yn bresennol ac i gadw’ch lle mae’r ffurflen gofrestru ar gael yma.

A yw'ch busnes chi'n ddiogel?

Termau e-droseddu

Protocol Trosglwyddo Ffeiliau (File Protocol Transfer)

Dull o drosglwyddo ffeiliau data dros y rhyngrwyd.
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.