Datganiad hygyrchedd


Ceir isod rai cynghorion i'ch helpu i gael gafael ar wybodaeth yn hawdd ar y wefan hon. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr offer sydd ar gael ar eich porwr i wella hygyrchedd, darllenwch yr wybodaeth i ddefnyddwyr a ddarperir gyda'ch system weithredu neu defnyddiwch y botwm 'Help' ar far dewislenni eich porwr.

1. Cynyddu maint y ffont neu newid arddull y ffont er mwyn gwella eglurder y sgrin.

I gynyddu maint y testun, cliciwch ar y ddewislen 'View' a dewiswch 'Text Size' ac wedyn cliciwch ar y maint priodol. I newid arddull y ffont, cliciwch ar 'Internet Options' yn y ddewislen 'Tools'. Ewch i’r blwch 'General' a dewiswch 'Fonts'. Wedyn cliciwch ar y ffontiau priodol yn y rhestri 'Web page font' a 'Plain text font'.

2. Newid cynllun lliwiau’r dudalen er mwyn gwella eglurder y sgrin.

I newid cynllun lliwiau’r dudalen, ewch i'r ddewislen 'Tools' yn Internet Explorer a chliciwch ar 'Internet Options'. Dewiswch 'Colours' yn y blwch 'General’. Gallwch wedyn newid y gosodiadau fel y mynnoch. Os hoffech ddewis pa ffont a chynllun lliwiau i ddefnyddio heb orfod newid y gosodiadau ar gyfer safleoedd neu dudalennau unigol, ewch i'r ddewislen 'Tools' a dewiswch 'Internet Options'. Cliciwch ar 'Accessibility' yn y blwch ‘General’. Gallwch wedyn newid y gosodiadau fel y mynnoch.

3. Blwch amlygu.

Wrth i chi symud at ddolen neu ddelwedd neu eu dewis, bydd border tenau'n ymddangos o'u cwmpas er mwyn i chi allu gweld beth rydych wedi'i ddewis.

4. Defnyddio'r bysellfwrdd.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd defnyddio llygoden neu os oes well gennych lywio drwy ddefnyddio'ch bysellfwrdd, gallwch ddefnyddio'r botwm 'Help' ar eich porwr i ddod o hyd i restr o fysellau mynediad. Er enghraifft, gallwch bwyso TAB a SHIFT+TAB wrth ddefnyddio Internet Explorer i symud ymlaen ac yn ôl rhwng pethau fel dolenni, dolenni ar fapiau a'r bar dewislenni.

5. Tagiau Alt.

Mae tagiau Alt gan bob delwedd a dolen ar y safle hwn, sef testun sy'n disgrifio beth y mae'r ddelwedd neu'r ddolen yn darlunio. Dylai'r rhain eich helpu i ddeall yr wybodaeth sydd ar gael a llywio'r safle'n hawdd.

6. Teilwra eich bar offer.

Gallwch deilwra'r bar offer drwy ychwanegu neu ddileu botymau, defnyddio eiconau bach neu fawr, a dangos neu guddio testun ar y labeli. Cliciwch ar fotwm dde'r llygoden ar y bar offer ac wedyn dewiswch 'Customise'.

Os oes nam ar eich golwg, hwyrach y byddwch am ychwanegu'r botwm 'Size' er mwyn gallu newid maint y ffont yn gyflym.

Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, hwyrach y byddwch am ddewis 'Small Icons' yn y rhestr 'Icon Options' a 'No text labels' yn y rhestr 'Text Options', er mwyn cynyddu faint o le sydd ar y sgrin ar gyfer cynnwys.
 

e-Fasnach ar gyfer Cymru 08

Dyddiad:
Monday 6th Oct 2008
Amser y Digwyddiad:
21:00 to 17:00

Eleni aeth e-Fusnes i Gymru ar daith. Diben Sioe Deithiol e-Fusnes i Gymru 08 oedd cyrraedd cynifer o rannau o’r wlad â phosibl dros dair wythnos.

Yn ystod mis Hydref, aeth ein harbenigwyr ar ymweliad ag wyth lleoliad a 500 o fusnesau ledled Cymru, gan esbonio ffyrdd newydd o ddefnyddio TGCh i wneud busnesau’n gryfach, gwella prosesau a’u gwneud yn fwy cystadleuol.

Roedd y sesiynau yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ar dair agwedd allweddol ar wneud elw i e-Fusnes:

  • e-Fusnes i Gymru – symleiddio prosesau i wella effeithlonrwydd, cystadleurwydd a’r gallu i wneud – i gael mwy o wybodaeth am brosiect e-Fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru, ewch i www.wales.gov.uk/ict 
  • e-Droseddu – cynnig dulliau atal, synhwyro ac ymarferol i ddiogelu busnesau – i gael mwy o wybodaeth am e-Droseddu, ewch i www.ecrimewales.com 
  • Busnesau ar Rwydwaith Digidol – Ychwanegu gwerth, gwybodaeth a dulliau rhyngweithio i sectorau busnes, gan gynnwys adeiladu, twristiaeth a thai cymdeithasol. I gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt, gweler y cyflwyniad Busnesau ar Rwydwaith Digidol isod.

Roeddent hefyd yn esbonio sut i fanteisio ar gyllid yr UE, a gynigir i helpu Cymru i lamu i gyfnod digidol newydd sy’n cynnig mwy o elw. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.wefo.wales.gov.uk

 

Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.