Amdanom ni
Croeso i e-Drosedd Cymru – eich gwasanaeth gwybodaeth un stop a fydd yn helpu i’ch diogelu chi a’ch busnes rhag y bygythiad cynyddol gan droseddau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd.
Ar hyn o bryd, mae e-droseddu’n costio tua £373 miliwn y flwyddyn i fusnesau yng Nghymru, trwy ddwyn eiddo deallusol neu ariannol yn uniongyrchol, aflonyddu ar gysylltiadau neu ddifrodi data hanfodol.
Yn hanesyddol, mae troseddau o’r fath wedi bod yn eithriadol o anodd eu canfod a’u cosbi – yn rhannol oherwydd eu cymhlethdod technegol ac yn rhannol oherwydd y gallai ymosodwyr anweledig daro o gannoedd neu hyd yn oed filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad, mae e-Drosedd Cymru, sef partneriaeth o sefydliadau ac asiantaethau, wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth ac offer i alluogi busnesau yng Nghymru i fod yn effro ac yn ymwybodol o effeithiau niweidiol e-droseddu ar bob ffurf, ac i’w diogelu eu hunain rhag yr effeithiau hynny.
Trwy ddwyn ynghyd y pedwar Heddlu yng Nghymru, sefydliadau sector cyhoeddus arbenigol a busnesau masnachol arbenigol, mae e-Drosedd Cymru yn rhannu ac yn dosbarthu’r wybodaeth sy’n hanfodol i alluogi busnesau yng Nghymru i gyflawni eu busnes ar-lein yn ddiogel.
Ein gobaith yw y bydd y wefan hon yn eich helpu i ddeall a gwerthfawrogi’r amrywiaeth eang o fygythiadau ar-lein, sut y gallai’r bygythiadau hyn effeithio ar eich busnes a sut y gallwch chi sicrhau bod eich busnes yn llawer llai tebygol o fod mewn perygl ar-lein.
