Beth yw e-droseddu?
Yn gyffredinol, mae e-droseddu’n cyfeirio at unrhyw sefyllfa lle mae cyfrifiadur neu rwydwaith cyfrifiadurol yn gyfrwng, yn darged neu’n lleoliad gweithgarwch troseddol. Er gwaethaf y cyfeiriadau anochel at ‘gyfrifiaduron’ neu ‘weithgarwch ar-lein’, mae e-droseddu’n cwmpasu amrywiaeth eang o droseddau ‘traddodiadol’ – fel twyll, lladrata, blacmelio, ffugio ac embeslo.
Mae e-droseddu’n anodd iawn i’w ganfod a’i gosbi oherwydd ei gymhlethdod technegol ac oherwydd y gall ymosodwyr anweledig daro o gannoedd neu hyd yn oed filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Oherwydd natur e-droseddu, a’i allu i ddatblygu gyda thechnoleg, mae bygythiadau newydd yn dod i’r amlwg yn ddychrynllyd o reolaidd a gallwn fod mewn sefyllfa llawer yn well i ymateb iddynt yn ôl yr angen, dim ond trwy werthfawrogi’n well y peryglon sy’n ein hwynebu.
Dros y tudalennau canlynol, byddwn yn mynd i’r afael ag e-droseddu mewn tair rhan er mwyn ei wneud yn haws ei lyncu. Byddwn yn edrych ar pam y dylech chi fod yn poeni am e-droseddu, yn darparu enghreifftiau cyffredin o e-droseddu sy’n effeithio ar fusnesau ac yn crynhoi popeth y mae angen i chi ei wybod am e-droseddu yn ein rhestr A-Y o derminoleg e-droseddu.