Enghreifftiau o e-droseddu
Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn dangos bod 62 y cant o fusnesau wedi dioddef o drosedd electronig yn 2006 ac mai £12,000 oedd cost gyfartalog digwyddiad gwaethaf cwmni.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod ymosodiadau gan e-droseddwyr yn costio mwy na £290 miliwn y flwyddyn i’r economi. Mae hyn yn cynnwys colled ariannol, tarfu ar fusnes, dwyn data gwerthfawr, dwyn hunaniaeth neu dwyll arall o ganlyniad i fynediad digroeso a heb awdurdod i systemau cyfrifiadurol. A chyda’r gost bosibl i gwmnïau a sefydliadau eraill o golli enw da, rydych chi’n dechrau deall maint y broblem.
Y cam cyntaf tuag at ddiogelu’ch busnes yw sicrhau eich bod yn deall yn well y mathau o fygythiadau sy’n wynebu busnesau fel eich un chi. Wrth i chi ddarllen yr adran hon, byddwn yn eich tywys trwy’r achosion mwyaf cyffredin o e-droseddu ac yn gwneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi er mwyn gwneud penderfyniadau allweddol ynglŷn â diogelwch electronig.
