Diogelu data cwsmeriaid


Mae diogelu data cwsmeriaid wedi dod i frig yr agenda gwleidyddol a chyhoeddus yn ddiweddar yn sgil y data a gollwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Beth bynnag oedd yr amgylchiadau, dangosodd y digwyddiad hwn sut y gall data fynd ar goll hyd yn oed pan fo gweithdrefnau diogelu data caeth ar waith.

Dylech ystyried amgryptio’ch data cwsmeriaid i’w ddiogelu rhag hacwyr a lladron. Dylai ffeiliau cyfrifiadurol sy’n cynnwys data cwsmeriaid neu wybodaeth hanfodol am y busnes gael eu diogelu gan gyfrinair ond, fel rydym eisoes wedi gweld, gall cyfrineiriau fod yn gymharol hawdd i’w hacio. Bydd y rhan fwyaf o gymwysiadau meddalwedd swyddfa poblogaidd yn cynnwys nodweddion diogelwch sylfaenol sy’n seiliedig ar gyfrinair. 

undefinedMae rhaglenni amgryptio’n codio data fel na ellir ei ddarllen, gan ei gwneud hi’n ofynnol i chi gofnodi cyfrinair neu ‘allwedd’ amgryptio er mwyn ei ddatgloi. Yr un fath â rhaglenni seiliedig ar gyfrinair, caiff rhai rhaglenni amgryptio eu hymgorffori ym meddalwedd ariannol a chronfeydd data poblogaidd, ac mae rhai darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd bellach yn cynnwys amgryptio ar gyfer rhwydweithiau di-wifr fel rhan o’u gwasanaeth. Fel arall, mae rhaglenni amgryptio arbenigol ar gael a fydd yn amgryptio gwybodaeth eich busnes yn gywir ac effeithiol.

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn amlinellu rheolau, rheoliadau a chyfrifoldebau ar gyfer sefydliadau sy’n delio â data personol, a sefydlwyd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i ddarparu canllawiau a chyngor ar gydymffurfio ag agweddau cyfreithiol y Ddeddf, yn ogystal â dehongliadau ymarferol o’i ofynion.

Enghreifftiau o e-droseddu

  • Straeon go iawn am sut mae e-droseddu wedi effeithio ar fusnesau yng Nghymru
  • Enghreifftiau o e-droseddau cyffredin sy’n effeithio ar fusnesau, ac awgrymiadau ar gyfer eu hosgoi neu leihau eu heffaith

Termau e-droseddu

Poethfan (Hot-spot)

Ystyr poethfan yw rhywle sy’n cynnig defnydd Wi-Fi. Gall y cyhoedd ddefnyddio gliniadur, ffôn Wi-Fi neu ddyfais symudol addas arall i fynd ar y rhyngrwyd.
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.