Copïau wrth gefn


Os nad ydych chi eisoes yn gwneud hynny, dylech fynd i’r arfer o wneud copïau wrth gefn yn rheolaidd (bob wythnos efallai) o ddata/ gwybodaeth fusnes bwysig.

Cadwch gopi diogel oddi ar y safle a chofiwch amgryptio unrhyw wybodaeth sensitif am eich cwmni a’ch cwsmeriaid neu ei diogelu â chyfrinair.

Yn ogystal â bod yn arfer busnes da, mae gwneud copïau wrth gefn rheolaidd yn sicrhau na chaiff eich data hanfodol ei ddinistrio o ganlyniad i ymosodiad maleisus neu ddigwyddiad ffisegol, fel tân neu lifogydd neu galedwedd cyfrifiadurol yn cael ei ddwyn.

Enghreifftiau o e-droseddu

  • Straeon go iawn am sut mae e-droseddu wedi effeithio ar fusnesau yng Nghymru
  • Enghreifftiau o e-droseddau cyffredin sy’n effeithio ar fusnesau, ac awgrymiadau ar gyfer eu hosgoi neu leihau eu heffaith

Termau e-droseddu

WEP

Cynllun i ddiogelu rhwydweithiau di-wifr. Mae rhwydweithiau di-wifr yn darlledu negeseuon trwy ddefnyddio radio, felly mae’n haws i ymosodwyr ryng-gipio’r wybodaeth na gyda rhwydweithiau sy’n defnyddio gwifrau.
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.