MessageLabs


MessageLabsMessageLabs yw un o’r prif ddarparwyr gwasanaethau negesu a gwe-ddiogelwch integredig. Mae gan y cwmni dros 16,000 o gleientiaid mewn mwy na 86 gwlad, sy'n amrywio o fusnesau bach i fusnesau sydd wedi'u rhestru yn y 'Fortune 500'.  Mae MessageLabs yn darparu ystod o wasanaethau diogelwch a reolir gan y cwmni ei hun er mwyn diogelu, rheoli, amgryptio ac archifo cyfathrebu drwy e-bost, y we a negesu cyflym. 

Credwn fod gan e-Drosedd Cymru rôl hanfodol er mwyn sicrhau bod Cymru a'r Deyrnas Unedig (DU) yn gallu parhau i elwa ar y manteision a'r ffyniant a geir drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd a thrwy gyfathrebu electronig. Bydd arbenigedd MessageLabs yn werthfawr wrth addysgu a chodi ymwybyddiaeth am y bygythiadau a wynebir wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd, a'r atebion sydd ar gael i leihau'r risgiau hynny a'u rheoli.
 
Dengys ein cysylltiad ag e-Drosedd Cymru ein hymrwymiad i'n cleientiaid ar y lefel uchaf. Rydym yn cydweithio â sefydliadau blaenllaw yng Nghymru a'r DU er mwyn rhoi arweiniad ac addysg i'r farchnad gyfan. Mae dod â'r llywodraeth, awdurdodau gorfodi'r gyfraith a sefydliadau masnachol blaenllaw at ei gilydd mewn partneriaeth yn creu erfyn pwerus iawn. Mae'r aelodau a ddewiswyd ar gyfer y grŵp llywio mewn sefyllfa ddelfrydol i ennyn ymddiriedaeth busnesau a defnyddwyr ar draws Cymru a'r DU gyfan, ac arwain ar lefel genedlaethol.

Mae'r rheini sy'n tanysgrifio â gwasanaeth MessageLabs Intelligence yn cael mynediad at un o'r prif ffynonellau newyddion, gwybodaeth a data’n ymwneud â negesu a gwe-ddiogelwch. Mae'n darparu dadansoddiadau awdurdodol a chytbwys ar amryw faterion y mae llawer o sefydliadau yn eu hwynebu, a hefyd ar fygythiadau i ddiogelwch e-byst, y we a negesu, ar faterion deddfwriaethol a llywodraethu corfforaethol yn ymwneud â malwedd, sbam a chynnwys diangen, ac ar weithredu polisïau diogelwch corfforaethol. Mae'r gwasanaeth hwn yn seiliedig ar gyflenwad data byw o seilwaith byd-eang MessageLabs, sy'n sganio dros 2.5 biliwn o e-byst a 1.1 biliwn o chwiliadau gwe bob dydd, gan gynnig data a dadansoddiadau cynhwysfawr ar draws ystod o brotocolau.

Termau e-droseddu

Cyflwr Io-io (Yoyo mode)

Y sefyllfa rwystredig lle mae cyfrifiadur personol yn gweithio’n iawn ac yn peidio â gweithio o gwbl, am yn ail. Mae hyn yn tarfu ar y gwaith, a gall feirws fod yn gyfrifol.
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.