Beth yw ffrwd newyddion?
Mae ffrwd newyddion yn eich galluogi chi i weld penawdau straeon newyddion a chynnwys gwefan cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi, ac yna clicio ar y wefan i weld y cynnwys llawn.
Weithiau, gelwir ffrwd newyddion yn RSS (Syndicetiad Syml Iawn), a bydd angen darllenwr RSS er mwyn ei weld. Mae sawl darllenwr ar gael i’w lawrlwytho am ddim, ac maent wedi’u cynnwys mewn porwyr fel Internet Explorer 7 a Mozilla Firefox.
Sut mae defnyddio ffrwd newyddion?
I weld unrhyw rai o ffrydiau newyddion e-Drosedd Cymru neu’r ffrydiau newyddion allanol rydym ni’n eu hargymell, cliciwch ar y botwm RSS oren a chliciwch ar ‘subscribe to this feed’, neu gallwch gopïo a phastio URL y ffrwd i mewn i’ch darllenwr RSS.
