Uwchgynhadledd e-Droseddu Cymru 2008
Cynhaliwyd pedwaredd Uwchgynhadledd flynyddol e-Droseddu Cymru yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd. Daeth 400 o gynrychiolwyr i’r digwyddiad ac roedd bron i 150 yn gwylio’r cyflwyniadau’n cael eu ffrydio’n fyw ar wefan e-Droseddu Cymru.
Roedd dros 70% o’r cynrychiolwyr yn dod o’r sector preifat, gyda’r gweddill yn dod o’r sector cyhoeddus, maes gorfodi’r gyfraith a’r byd academaidd.
Bu’r cynrychiolwyr a oedd yn bresennol ac yn gwylio ar-lein yn gwrando ar gyflwyniadau ar bwysigrwydd gweithredu’r polisïau, prosesau a gweithdrefnau cywir i ddiogelu eu hunain rhag bygythiad cynyddol e-Droseddu.
Mae fideos o’r cyflwyniadau ar gael yma. Oherwydd rhesymau cyfreithiol, nodwch nad yw hi’n bosibl gweld pob cyflwyniad. Gallwch hefyd lawrlwytho’r sleidiau yma.