Prifysgol Cymru, Casnewydd


University of Wales, Newport “Dylai Diogelwch Gwybodaeth fod yn hawl dynol.  Dylai gael ei gynnig i bob aelod o’r cyhoedd.  Trwy gyfrannu at y Grŵp Llywio e-Drosedd byddaf yn cynghori ar sut i ddeall, dadansoddi a mynd i’r afael ag e-droseddu yn effeithiol ac yn rhagweithiol.  Fy nod yw gweld Cymru yn wlad well a mwy diogel lle y bydd sefydliadau’n cael rhedeg eu busnes ar-lein mor ddiogel â phosibl.  Rwyf hefyd am weld Cymru yn gosod safon o’r radd flaenaf ar gyfer mynd i’r afael ag e-Droseddu gan wneud byd y we yn fwy diogel i bawb.”

“Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn cydnabod pwysigrwydd deall natur y mathau gwahanol o e-Droseddu yn ogystal â dysgu’r cyhoedd amdanynt.  Rydym wedi buddsoddi cryn dipyn o adnoddau i allu casglu, dadansoddi a deall data bygwth.  Rydym yn ceisio deall e-Droseddu a’r bobl y tu ôl iddo: y we-droseddwyr a’r bobl y maent yn troseddu yn eu herbyn.  Ein nod yw cynnig cyngor ar y bygythiadau sydd ar wefannau Cymru, ac rydym yn falch o allu gwneud hyn trwy’r Grŵp Llywio e-Drosedd.”

Stilianos Vidalis, Uwch Ddarlithydd  

Termau e-droseddu

Tystysgrif (Certificate)

Ym maes cyfrifiadura ac yn enwedig mewn perthynas â diogelwch cyfrifiaduron, fel rheol mae’r gair tystysgrif yn cyfeirio at dystysgrif hunaniaeth ddigidol neu dystysgrif allweddol y cyhoedd.
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.