Bydd y gweithdy hwn, sy’n cael ei arwain gan Stefan Fafinski, prif weithredwr 1871, arbenigwyr ymchwil e-Drosedd, yn canolbwyntio ar gyfyngiadau difrifol cyfraith genedlaethol wrth ymdrin ag e-Drosedd.
Bydd yn archwilio’r bygythiadau presennol a’r rhai y gellir eu disgwyl gan e-Droseddwyr ac yn cymharu hynny gyda'r fframwaith gyfreithiol bresennol sydd ar gael i ymdrin â nhw.
Bydd yn canolbwyntio ar sut mae natur lyfn a rhyngwladol e-Drosedd yn gallu rhwystro asiantaethau cenedlaethol gorfodi’r gyfraith sydd yn aml â dim ond deddfwriaeth benodol iawn sydd wedi’i chyfyngu’n ddaearyddol at eu gwasanaeth. Mae swyddogion yn ei chael yn anodd casglu tystiolaeth dderbyniol ar gyfer y llysoedd, mae diffyg gwybodaeth arbenigol, amharodrwydd ymysg dioddefwyr i adrodd ar droseddau o’r fath ac mae’n anodd sicrhau'r cydweithrediad rhyngwladol angenrheidiol i erlid troseddwyr y tu allan i’w hawdurdodaeth.
Bydd y gweithdy’n edrych yn fanwl ar sut mae'n rhaid cyfuno’r gyfraith ddomestig gyda chydweithrediad rhyngwladol, hunan reolaeth a datblygu set newydd o safonau cymdeithasol er mwyn gallu rheoli gweithgaredd rhyngwladol ar lein yn effeithiol.