Cael gwared ar hen galedwedd yn ddiogel
Tra bod busnesau’n dechrau cydnabod bod cael gwared ar wastraff electronig fel cyfrifiaduron a gyriannau caled yn ddiogel yn gam mawr tuag at fod yn ecogyfeillgar, mae nifer yn anghofio am broblem arall yr ymdrinnir â hi wrth wneud hyn: diogelu data gwerthfawr.
Mae achosion diweddar o dorri rheolau diogelwch data yn y sector cyhoeddus. Mae’r rhain yn ategu digwyddiadau tebyg yn y sector preifat sydd wedi dod yn fwy amlwg dros y misoedd a blynyddoedd diwethaf. Mi fyddan nhw’n dal i ddigwydd wythnos nesaf a’r wythnos ar ôl hynny, oni bai fod busnesau yn mynd i’r afael â gwraidd y broblem - canfod ffyrdd o gael gwared ar eu hen galedwedd yn ddiogel.
Mae’n bwysig bod cwmnïau’n dechrau sefydlu a gweithredu polisïau defnydd derbyniol sy’n gofyn i weithwyr ddychwelyd pob cyfarpar TG yn ôl i’r adran TG neu reolwyr TG ar ddiwedd ei oes. Er enghraifft, os yw gweithiwr yn cael peiriant newydd neu’n gadael y cwmni, yna mae gan y cwmni ffordd i ail-hawlio’r hen beiriant heb unrhyw broblemau. Argymhellir eich bod yn drafftio canllawiau ar ffyrdd derbyniol o gael gwared ar beiriant, fel ei ailwerthu ar-lein, ei anfon yn ôl at y gwneuthurwr, neu ei ailgylchu drwy raglenni gwastraff peryglus. Ond cyn i chi wneud hynny, mae’n rhaid i dimau TG neu uwch aelodau o staff ddileu pob rhaglen a gwybodaeth oddi ar y peiriant cyn cael gwared ar hen galedwedd.
Mae yna nifer o wahanol eiriau am lanhau eich gyriant caled ond beth bynnag rydych chi’n ei alw, y canlyniad yw bod y wybodaeth yn cael ei drosysgrifo. Nid yw llawer o fusnesau yn sylweddoli nad yw dileu ffeil o gyfrifiadur yn golygu ei fod wedi’i ddileu’n gyfan gwbl. Mae’r wybodaeth yn dal yno nes ei bod yn cael ei throsysgrifo’n gorfforol, sydd ond yn digwydd pan mae’r gyriant caled yn llawn a’ch cyfrifiadur angen mwy o le.
Mae yna sawl enghraifft o feddalwedd i ddileu’ch gyriant caled i’w cael ar y we. Mae’r rhaglenni hyn yn gweithio drwy drosysgrifo’r ffeiliau rydych wedi’u dileu sawl gwaith gyda data diystyr i sicrhau eu bod wedi’u dileu’n gyfan gwbl. Hyd yn oed wedyn, gall fod yn bosibl canfod y data gwreiddiol, ond dim ond arbenigwyr pwrpasol sydd â meddalwedd adfer pwerus iawn a fyddai’n gallu gwneud hynny.
Mae ailfformatio ac ailosod eich system weithredu yn ffordd arall o sicrhau fod y gyriant caled wedi’i glirio. Mae hon yn broses dechnegol, felly dylech fod yn hyderus am y dasg o’ch blaen cyn ceisio gwneud hyn, neu’n adnabod rhywun sy’n gwybod beth i’w wneud.
Os ydych chi’n parhau i boeni y gallai’r wybodaeth ar eich cyfrifiadur gyrraedd y dwylo anghywir, gallwch ddinistrio’ch gyriant caled yn gorfforol neu gymryd y gyriant caled allan cyn ei ailgylchu, os yn bosibl. Gallwch gymryd y gyriant caled allan o’ch cyfrifiadur ac un a’i losgi, neu ddrilio tyllau ynddo fel nad oes unrhyw un arall yn gallu ei ddefnyddio. Ond, mae hwn yn ateb eithafol, ac mae’n bechod dinistrio eich gyriant caled pan fyddai elusen yn falch o’i dderbyn fel rhodd.
