Protocol Llais dros y Rhyngrwyd


Mae’n bosibl gwneud galwadau ffôn rhad ar y rhyngrwyd gan fod gwasanaethau rhyngrwyd cyflym iawn a band eang ar gael mor rhwydd. Mae protocol llais dros y rhyngrwyd (VOIP) yn golygu defnyddio’r rhyngrwyd i gynnal sgwrs lafar amser real (yn hytrach na chyfnewid data) ac mae’n dod yn ffordd boblogaidd o wneud galwadau ffôn - yn bennaf oherwydd y gost isel iawn o gymharu â gwasanaethau ffôn arferol, yn enwedig gyda galwadau pell. Fel arfer, caiff galwadau eu gwneud drwy gyfeiriad IP unigryw gan ddefnyddio clustffonau neu feicroffon, ond mae yna setiau llaw ar gael nawr sy’n gweithio yn debyg i ffonau cyffredin.

Ond, dim ots pa mor ‘gyffredin’ y mae’r gwasanaeth yn ymddangos, mae’n dal i wynebu’r un lefel o risg ag unrhyw ffurf arall o gyfathrebu ar y rhyngrwyd nad yw wedi’i ddiogelu - yn enwedig os ydych chi’n defnyddio VOIP dros wasanaethau cyhoeddus neu wi-fi. Ond, drwy ddefnyddio lefelau tebyg o ddiogelwch ag y byddech chi wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd fel arfer, gellir cynnal sgyrsiau VIOP yn ddiogel - ac yn sicr heb fwy o risg na’r rhwydwaith ffôn ‘traddodiadol’. Dyma awgrymiadau i chi ddefnyddio gwasanaethau VOIP yn ddiogel:

  • Mae’n hollbwysig bod eich cyfrifiadur neu’ch rhwydwaith wedi’i ddiogelu’n gywir os ydych chi’n gwneud galwadau ffôn drwy gysylltiad rhyngrwyd band eang eich cyfrifiadur. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi osod meddalwedd gwrthfeirysau, gwrth ysbïwedd a wal dân a’u bod wedi’u diweddaru.
  • Cofiwch fod VOIP yn gweithio dros gysylltiadau rhyngrwyd cyhoeddus. Mae yna risg isel fod rhywun yn gallu gwrando ar eich sgwrs chi. Felly, mae’n bwysig dewis cyflenwr VOIP sy’n gallu cynnig cyfleusterau amgryptio diogel.
  • Mae’r mwyafrif o wasanaethau VOIP yn gofyn am gyfrinair – yn debyg i gysylltiad rhyngrwyd arferol neu ddull mewngofnodi i wefan. Mae felly’n hollbwysig defnyddio cyfrineiriau sy’n gadarn a diogel. Cyfeiriwch at (dolen briodol) am ragor o arweiniad ar sut i ddewis cyfrineiriau cadarn a diogel.
  • Ar hyn o bryd, ni fyddwn yn eich cynghori i newid eich ffôn llinell tir yn gyfan gwbl. Gallwch ddefnyddio gwasanaeth VOIP cymaint ag y mynnwch, ond byddai colli’ch cyflenwad trydan neu broblemau technegol eraill gyda’ch cysylltiad rhyngrwyd yn gallu’ch gadael heb wasanaeth ffôn ac - yn bwysig - heb ffordd o gysylltu ag unrhyw ymatebwyr neu gyfleustodau brys.
  • Fel gyda phob gwasanaeth meddalwedd arall, gwiriwch gyda’ch darparwr gwasanaeth ISP neu VOIP yn rheolaidd i sicrhau bod eich meddalwedd VOIP wedi’i diweddaru â’r holl gyweiriadau diogelwch ac ychwanegiadau gwasanaeth sydd ar gael.

Ymosodiad ar droed!
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.