Yr Heddlu yng Nghymru


Yma yng Nghymru rydym wedi penodi Swyddogion Cyswllt Rhanbarthol e-Droseddau. Gallant helpu busnesau trwy gofnodi e-Droseddau ac ymchwilio iddynt. Mae’r swyddogion naill ai’n Dditectifs profiadol neu wedi’u recriwtio o swydd archwilio TG.

Pan fydd busnes yn rhoi gwybod am e-drosedd, bydd y Swyddogion Rhanbarthol hyn yn cysylltu i gynnig help a chefnogaeth. Byddant hefyd yn cynnig help a chyfarwyddyd gyda’r broses ymchwilio gan sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i bob trosedd a gofnodir.

Bydd y swyddogion hefyd yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i unrhyw gwmni sy’n teimlo ei fod yn agored i e-Drosedd.

I gofnodi e-Drosedd, defnyddiwch y ffurflen yma.

Andrea Barnard

Andrea Barnard Heddlu: Heddlu Gogledd Cymru

Yn cynnwys: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecam

Mae gan Andrea radd BA Anrhydedd mewn Ffrangeg a Diploma Ôl-radd mewn Gweinyddu Busnes Dwyieithog. Mae wedi bod yn swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru ers 15 mlynedd, a threuliodd y rhan fwyaf o’i gwasanaeth fel Ditectif. Cyn ymuno ag e-drosedd Cymru, Angela oedd Cydlynydd y Prosiect ar gyfer y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) newydd ym Mae Colwyn. Bydd cymunedau busnes Bae Colwyn bellach yn elwa ar ei phrofiad o ymchwilio, o weithio mewn partneriaeth a’i sgiliau rheoli prosiect.

Ffôn: 01492 804709
e-Bost: andrea.barnard@nthwales.pnn.police.uk

John Cherry

John CherryHeddlu: Heddlu De Cymru

Yn cynnwys: Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg

Treuliodd John ei yrfa fel ditectif gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad ym maes Ymchwilio Troseddol. Yn yn 10 mlynedd diwethaf yr oedd yn aelod o Dîm Ymchwilio Troseddau Difrifol Heddlu De Cymru, yn edrych ar achosion difrifol a chymhleth gan gynnwys llofruddiaethau ac achosion o herwgipio. Y mae John hefyd wedi gweithio gyda thîm y prosiect datblygu Troseddu a Chudd-wybodaeth a oedd yn gyfrifol am weithredu System Rheoli Cofnodion Troseddol yr Heddlu. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes Ymchwilio Troseddol.

Ffôn: 01639 889124
e-Bost: John.Cherry@south-wales.pnn.police.uk

Karen Burch

Karen burch Heddlu: Heddlu Dyfed Powys

Yn cynnwys: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys

Mae gan Karen dros 20 mlynedd o brofiad gyda’r heddlu oherwydd ei bod yn gyn Swyddog gyda’r Heddlu Metropolitan. Cafodd ei recriwtio o’i swydd fel Archwilydd Rhwydwaith o fewn Heddlu Dyfed Powys. Mae sgiliau Karen yn ymwneud â chanfod pobl y drwgdybir eu bod yn droseddwyr electronig. Treuliodd y 4 blynedd diwethaf yn rhan o’r Uned Troseddau Cyfrifiadurol, yn helpu swyddogion yr heddlu wrth iddynt ymchwilio i achosion o droseddau sy’n ymwneud â’r rhyngrwyd ynghyd â chadw tystiolaeth o’r rhyngrwyd yn ofalus. Mae gan Karen nifer o gysylltiadau yn y maes, yn y DU a thramor. Bydd hi’n dod â’r sgiliau a’r galluoedd hyn gyda hi i e-drosedd Cymru.  

Ffôn: 01267226649
e-Bost: karen.burch@Dyfed-Powys.pnn.police.uk

Joanne Everson

Joanne Everson Heddlu:  Heddlu Gwent
Siroedd: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen

Graddiodd Jo o Brifysgol Morgannwg gyda gradd Anrhydedd BSc mewn Astudiaethau Cyfrifiadurol. Ar ôl graddio bu’n gweithio i Menter Cymru gan roi cymorth a chyngor busnes i gwmnïau bach a chanolig. Ymunodd ag adran Gwasanaethau Corfforaethol Heddlu Gwent yn Chwefror 2007 cyn derbyn swydd Uwch-weinyddwr yn adran Datblygu Busnes a Phartneriaeth yr heddlu. Mae Jo yn cyfrannu i e-Drosedd Cymru ei gwybodaeth a’i sgiliau eang ym maes cyfrifiadureg a’i chefndir o weithio i fusnesau a chyda busnesau.

Ffôn:  01633 642099
e-bost:  joanne.everson@gwent.pnn.police.uk

Hysbysu am e-Drosedd

Os ydych chi wedi dioddef e-Drosedd neu dwyll hunaniaeth, pwy ddylech eu hysbysu? Cewch gyngor ynghylch pwy ddylech eu hysbysu, yn ogystal â manylion cyswllt eich heddlu lleol.
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.