Cynhaliwyd Uwchgynhadledd e-Drosedd Cymru eleni ar 21 Hydref 2009 yn Venue Cymru, Llandudno. Roedd y digwyddiad yn darparu’r wybodaeth a’r offer diweddaraf i gynrychiolwyr frwydro yn erbyn troseddwyr sy’n targedu technoleg er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar gynyddu elw drwy fwy o weithgarwch ar-lein.
Dengys ymchwil newydd fod chwarter busnesau Cymru wedi dioddef achos o e-Drosedd yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda rhai yn achosi miloedd o bunnoedd o gostau. Yn yr Uwchgynhadledd, dysgodd busnesau am gamau i’w cymryd i osgoi ymosodiadau a cholled ariannol ddifrifol, amharu ar eu gwasanaethau, dwyn data neu eiddo deallusol a niweidio eu henw da.
Siaradwyr
Roedd agenda’r Uwchgynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr e-Ddiogelwch mwyaf blaenllaw'r byd o gwmnïau fel Microsoft, 7Safe, CRYPTOCard a Paypal. Rhoddwyd gwybodaeth am y bygythiadau ac atebion diweddaraf, ynghyd â chyngor gwerthfawr ar drafod taliadau’n ddiogel ar-lein.
Trafodaeth ryngweithiol
Roedd y digwyddiad yn un rhyngweithiol iawn, gyda chyfle i bawb oedd yn bresennol fynegi eu safbwyntiau ar Gymorth e-Drosedd a holi cwestiynau perthnasol i’w busnes.
Arddangosfa
Yn ogystal, cafodd cynrychiolwyr gyfle i ymweld ag arddangosfa eang eleni sy’n cynnwys dwsinau o sefydliadau TG ac e-Ddiogelwch blaenllaw.
Cymorth a chyngor
Roedd yr heddweision e-Drosedd newydd yno i gynnig cyngor ac arweiniad arbenigol. Roedd cymorth ychwanegol ar gael drwy ganllawiau a thaflenni ffeithiau e-Drosedd Cymru sy’n rhoi cyngor syml ar e-Ddiogelwch.
.gif)