Ymunodd Ian Williams â Llywodraeth Cynulliad Cymru’n Gyfarwyddwr Busnes Rhyngwladol Cymru (BRhC). Ian sy’n gyfrifol am reoli pob mewnfuddsoddiad i Gymru yn ogystal ag annog cwmnïau yng Nghymru i finiogi eu gallu i gystadlu trwy ryngwladoli eu busnesau.
Mae Ian hefyd yn Gyfarwyddwr Gogledd Cymru (yn arwain datblygu economaidd o fewn y rhanbarth) ac yn gyfrifol am Fenter (yn darparu cefnogaeth i entrepreneuriaid a busnesau twf) ar draws Cymru gyfan.
Mae Ian yn hanu’n wreiddiol o Fethesda yng Ngogledd Cymru ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae ganddo ugain mlynedd o brofiad fel Gweithredydd Cwmni Olew Shell International. Cyn ymuno â Shell, treuliodd Ian beth amser yn Ganwr Pop ac yn Gyflwynydd Teledu yng Nghymru. Mae Ian yn briod â Nest Williams, Gohebydd Teledu gyda BBC Cymru.







