Diogelu'r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru


ConeGweithdy 20 Hydref 2009, 12.30 - 17.00

Dim ond ychydig ddiwydiannau a all newid a defnyddio technolegau newydd mor gyflym â'r sector Creadigol/sector y Cyfryngau - gyda bron i bob elfen o gynhyrchu a gweithredu yn dibynnu'n fawr ar gyfrifiaduron a thechnolegau rhwydweithio erbyn hyn. Gan fod y gymdeithas yn canolbwyntio fwyfwy ar y defnyddiwr a nifer y bobl sy'n defnyddio'r Band Eang cyflymach gartref ac yn y gweithle yn debygol o barhau i gynyddu, mae cyfleoedd ar gael i fusnesau sydd wedi'u hen sefydlu a busnesau newydd yn Niwydiannau Creadigol Cymru greu a defnyddio cynnwys digidol newydd ar gyfer marchnad fyd-eang.

Fodd bynnag, mae hanes wedi dangos bod cyfleoedd masnachol newydd yn denu troseddwyr yn gyflym iawn. Mae'r gwaith ymchwil a wnaed yn ystod 2007-8 wedi datgelu bod e-Droseddu wedi costio mwy na £280 miliwn i fusnesau yng Nghymru oherwydd colli gwerthiant a chynhyrchiant. Mae'r ffigur hwn wedi'i seilio ar ddigwyddiadau sy'n hysbys ac sydd wedi'u cofnodi yn unig.

Er mwyn helpu busnesau Creadigol i adolygu a gweithredu arferion e-Ddiogelwch ymhlith eu staff yn eu sefydliad eu hunain, mae Gweithdy hanner diwrnod yn cael ei gynnal ar 20 Hydref, cyn y brif Uwchgynhadledd,. Y Gweithdy hwn fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru i drafod materion yn ymwneud ag e-Ddiogelwch yn y Diwydiannau Creadigol, a'i nod yw canolbwyntio ar ddwy brif thema:

  • mesurau e-Ddiogelwch ac ymddygiad y staff
  • diogelu cynnwys digidol: hawlfraint ac Eiddo Deallusol

Bydd siaradwyr o feysydd e-Ddiogelwch, Darlledu a'r Cyfryngau Digidol nid yn unig yn rhoi eu barn am y materion a'r cyfleoedd diweddaraf, ond hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn lle y caiff cynrychiolwyr ofyn cwestiynau i'r Panel a thrafod materion ehangach. Bydd y Gweithdy unigryw hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ymarferwyr y Diwydiant Creadigol a'r rheini sydd am fynd i mewn i'r maes ar y mesurau diogelwch sy'n berthnasol i'w busnes, a bydd yn ysgogi trafodaeth ar ddiogelu'r buddsoddiad a wneir mewn syniadau a Chynnwys Digidol mewn marchnad fasnachol ar-lein sy'n datblygu'n gyson.

Agenda

12.30  Cofrestru
13.00  Croeso a Chyflwyniad i e-Droseddu Cymru
13.10  e-Ddiogelwch mewn Diwydiannau Creadigol, Jason Hart, CRYPTOCard
13.40  Metadata: Olrhain Cynnwys, Nick Pearce, Object Matrix
14.10  Coffi a Rhwydweithio
14.30  Cynnwys Digidol yn y dyfodol yng Nghymru, Ceri Sherlock, BBC Cymru
15.00  Croesawu'r Gwaith o Rannu Cerddoriaeth Ar-lein, Colin Consterdine, Sound of Monkey
15.30  Cydweithio: Rhwydweithiau Digidol, Neil Cocker, Nocci & Luke Hodge, b2b IT Services
15.50  Trafodaeth y Panel, Cymedrolwr: Yr Athro Graeme Harper, Prifysgol Bangor
16.10  Sesiwn Holi ac Ateb, Cymedrolwr: Brian Carroll, Crimzn
17.00  Diwedd

I gofrestru eich lle yn y digwyddiad hwn, cliciwch yma.

Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.