Pobl Ifanc mewn Byd Gwe 2.0: Deall Llythrennedd y Rhyngrwyd a Materion Diogelwch
Gweithdy 20 Hydref 2009, 08.45 - 11.45
Cyflwynwyd gan y Dr Sangeet Bhullar, Cyfarwyddwr Gweithredol WISE KIDS
Cyflwyniad
Mae datblygiadau cyflym o ran Technolegau Symudol, Gemau a’r Rhyngrwyd yn golygu bod gan bobl ifanc ac oedolion heddiw gyfleoedd a dulliau hollol newydd ar gyfer creu cynnwys gwefan, cael mynediad at addysg ac adloniant, rhwydweithio gyda’u cyfoedion a gwella ansawdd eu bywydau. Mae’r amgylchedd digidol hwn, sy’n newid yn gyflym, yn cyflwyno cyfleoedd a heriau.
Gall technolegau cyfredol gwe 2.0 megis gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, er eu bod yn werthfawr, ddylu’r ffiniau rhwng perthynas broffesiynol a pherthynas bersonol, yn ogystal â rhwng gwybodaeth gyhoeddus a gwybodaeth breifat. Mae ein profiad wedi dangos y gall pobl ifanc (a rhai oedolion) fod yn ymddiriedus a diniwed pan fyddant yn gwneud ffrindiau ar-lein, a phan fyddant yn asesu cynnwys gwefan neu’n rhannu gwybodaeth ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol megis Bebo, y Gweplyfr neu Fy Ngofod i. Mae hyn yn golygu y gellir cymryd mantais arnynt oherwydd eu diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o: sut y mae’r Rhyngrwyd yn gweithio, sut i asesu a rheoli risgiau ar-lein, sut i reoli a diogelu hunaniaeth a data personol, a rhyngweithiadau ar-lein eraill, a sut a ble y dylid adrodd am gam-drin.
Gweithdy
Bydd y gweithdy hwn yn egluro datblygiadau cyfredol ynglŷn â’r Rhyngrwyd, gyda phwyslais ar ddefnydd pobl ifanc o dechnolegau’r Rhyngrwyd a Symudol. Bydd yn archwilio’r materion y mae’n rhaid i lunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc roi sylw iddynt, er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio’r cyfryngau hyn yn arloesol, yn hyderus ac yn ddiogel. Bydd hefyd yn cynnwys trafodaethau a gwaith grŵp, gyda’r nod o greu negeseuon allweddol y gall ymarferwyr eu datblygu.
Pwy ddylai ddod?
Mae’r gweithdy hwn wedi ei fwriadu ar gyfer uwch aelodau staff , gweithwyr proffesiynol TG, addysgwyr, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr proffesiynol eraill sydd â diddordeb mewn sut y mae pobl ifanc yn defnyddio technolegau’r Rhyngrwyd a symudol, ac sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a datblygu polisïau.
