TGCh diagnostig i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella
Gall busnesau gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd annibynnol a diduedd i wneud gwiriad iechyd diagnostig neu fusnes ar gyfer TGCh.
Mae’r broses yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwella busnes drwy TGCh, ac yn egluro’n glir y manteision a cyfleoedd fel mwy o effeithiolrwydd, cynhyrchiant, gallu i wneud elw, awydd i gystadlu a chwtogi ar gostau.
Ar ddiwedd y broses, bydd gan fusnesau adroddiad sy’n amlinellu atebion a chyfleoedd posibl i yrru eu busnes ymlaen, er enghraifft:
• Parhad busnes
• Rheoli cysylltiadau â’r cwsmer
• Diogelwch gwybodaeth
• Dulliau cyfathrebu unedig
• Gwneud y gorau o’r gadwyn cyflenwi
I ddarganfod sut i gyrchu at Gymorth Diagnostig, cysylltwch
â ebusiness@cymru.gsi.gov.uk, ewch I www.chif.cymru.gov.uk neu galwch 03000 6 03000 a dyfynnwch “TGCh Diagnostig”



