Partneriaeth e-Droseddu Ewrop


European e-Crime Partnership Nod Partneriaeth e-Droseddu Ewrop yw cefnogi buddiannau pob busnes, pob sefydliad a phob defnyddiwr yn Ewrop, bob dydd. e-Drosedd Cymru wnaeth sefydlu Partneriaeth e-Droseddu Ewrop.


Bydd y Grŵp yn:

  • Rhannu arferion gorau a gwybodaeth ar draws Ewrop. 
  • Cynrychioli buddiannau a chyfraniadau'r sectorau priodol.
  • Hybu gwaith Partneriaeth e-Droseddu Ewrop.
  • Cydweithio i ddeall nifer yr e-droseddau yn Ewrop a'u heffaith ar fusnesau drwy rannu'r wybodaeth sy'n cael ei hadrodd a'i chofnodi.
  • Dod â'r cyrff hynny yn Ewrop sy'n dod o hyd i e-Droseddau a'u hatal at ei gilydd.
  • Addysgu busnesau ynghylch adnabod e-Droseddu a'i ddifrifoldeb.
  • Cynnig cyngor a chymorth cynhwysfawr a chydgysylltiedig o safon uchel i fusnesau ynghylch y camau i'w cymryd i osgoi dioddef e-Droseddu a'r hyn i'w wneud os ydynt yn ei ddioddef neu'n tybio eu bod yn ei ddioddef.

Rydym am i'r holl fusnesau yn Ewrop:

  • Gydnabod e-Droseddu pan fydd yn dod i'w golwg.
  • Rhannu eu profiad o e-Droseddu.
  • Deall difrifoldeb e-Droseddu; hynny yw bod ganddo oblygiadau hynod ddifrifol i fywydau a bywoliaeth yn yr un modd â 'throseddau go iawn'.
  • Bod yn ymwybodol o'r camau ymarferol i'w cymryd er mwyn osgoi dioddef e-Droseddu.
  • Dysgu am y broses gywir ar gyfer adrodd achosion o e-Droseddu i'r awdurdodau perthnasol.
  • Cael yr adnoddau a'r cymorth angenrheidiol gan yr heddlu, y llywodraeth a'r sector preifat i gyrraedd y nodau hyn.
  • Parhau i wneud y gorau o fanteision TGCh heb adael i ofn e-Droseddu gael effaith andwyol arnynt na'u rhwystro.

I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth ac i gymryd rhan, anfonwch e-bost atom ni yn gwybodaeth@edroseddcymru.com 

Ydych chi wedi dioddef e-Drosedd?
Mae e-Drosedd Cymru yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.