Cyfryngau cymdeithasol
Erbyn hyn mae llawer o fusnesau yn manteisio ar systemau rhwydweithio cymdeithasol er mwyn dod â hwy yn nes at eu cwsmeriaid a gwella'r profiad o frand. Er bod i'r gwasanaethau fanteision mae hefyd risgiau i fusnesau yn gysylltiedig â hwy, sy'n amrywio o ddatgelu data i heintio gan feddalwedd faleisus a thorri hawlfraint.
Meddalwedd faleisus a sbam - mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol weithiau'n cael eu targedu i gyfeirio defnyddwyr at ddolenni maleisus; gan beryglu'r cwmni a lledaenu feirysau rhwng ffolderi a rennir a dyfeisiau y gellir eu tynnu, megis cofbinnau.
Ymosodiadau maleisus a chamymddwyn gan gyflogeion – gall cyflogeion roi gormod o wybodaeth bersonol a sensitif, datgelu diffyg synnwyr cyffredin neu hyd yn oed ymosod ar eu cyflogeion eu hunain gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein.
Gwe-rwydo – Mae gwe-rwydo yn ei gwneud yn bosibl i droseddwyr gael gafael ar fanylion mewngofnodi defnyddiwr drwy ei gyfeirio at ryngwyneb mewngofnodi ffug. Mae hyn wedyn yn eu galluogi i gael gafael ar gyfoeth o fanylion personol sy'n galluogi e-droseddwyr i lunio proffil o'r defnyddiwr.















